Y gwanwyn hwn, rydym wedi cyhoeddi tair dogfen fel rhan o'n gwaith parhaus i weithredu Deddf y Cyfryngau.
Rydym yn ymgynghori ar ein cynigion i ddiweddaru cwotâu darlledu gwasanaeth cyhoeddus, gan fod Deddf y Cyfryngau yn caniatáu i'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, am y tro cyntaf, ddefnyddio eu gwasanaethau ar-alw (yn ogystal â'u gwasanaethau llinol) i fodloni eu cwotâu ar gyfer cynhyrchu gwreiddiol, rhanbarthol ac annibynnol. Mae ein hymgynghoriad yn cynnwys cynigion i drosi cwotâu cyfrannol yn niferoedd absoliwt, gan fod y fframwaith newydd yn golygu bod yn rhaid adolygu'r ffordd y mae cwotâu'n cael eu gosod i adlewyrchu y gallant nawr gael eu bodloni drwy ddarparu cynnwys ar-alw.
Yn dilyn ymgynghoriad yn gynharach eleni, rydym hefyd wedi cyhoeddi ein datganiad ar yr egwyddorion a'r dulliau y byddwn yn eu defnyddio wrth wneud ein hargymhellion i'r Ysgrifennydd Gwladol ar ddynodiad 'gwasanaethau dethol radio' (RSS). O dan Ran 6 o Ddeddf y Cyfryngau, rhaid i RSS dynodedig gydymffurfio â rheolau newydd sy'n anelu at ddiogelu argaeledd radio'r DU ar ddyfeisiau sain gysylltiedig.
Yn yr un modd â'r uchod, mae Rhan 2 o Ddeddf y Cyfryngau yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud argymhellion i'r Ysgrifennydd Gwladol ar ddynodi 'gwasanaethau dewis teledu' (TSS). Dyma'r llwyfannau teledu cysylltiedig a fydd yn destun gofynion newydd i sicrhau amlygrwydd chwaraewyr ar-alw darlledu gwasanaeth cyhoeddus a chynnwys gwasanaeth cyhoeddus. Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd ein datganiad ar yr egwyddorion a'r dulliau y byddwn yn eu defnyddio wrth wneud ein hargymhellion.
Yn ystod y mis diwethaf rydym wedi cyhoeddi pedwar ymgynghoriad, wrth i ni barhau i weithredu'r darpariaethau newydd yn Neddf y Cyfryngau 2024.
Mae'r Ddeddf yn cyflwyno cyfundrefn amlygrwydd ac argaeledd newydd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i rai llwyfannau teledu cysylltiedig sicrhau bod apiau ar-alw'r Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus (PSBs), a'u cynnwys gwasanaeth cyhoeddus, ar gael, yn amlwg, ac yn hawdd eu cyrchu. Yn gyfnewid am y manteision newydd hyn, rhaid i PSBs sicrhau bod eu apiau dynodedig yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflawni eu cylchoedd gwaith gwasanaeth cyhoeddus unigol. Fel rhan o sicrhau tryloywder yn y ffordd y mae'r PSBs yn bwriadu cyflawni hyn, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol iddynt, yn eu Datganiadau Polisi Rhaglenni blynyddol, nodi cyfraniad pob gwasanaeth at gyflawni eu rhwymedigaethau.
Heddiw rydym wedi lansio dau ymgynghoriad fel y cam cyntaf i weithredu'r gofynion newydd hyn:
- • Rydym yn ymgynghori ar ddiweddaru ein canllawiau i'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus trwyddedig ar yr ystod o wybodaeth a ddarperir yn eu Datganiadau o Bolisi Rhaglenni, a Channel 4 yn ei Ddatganiadau o Bolisi Cynnwys y Cyfryngau.
- • Rydym hefyd wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar ein cynigion ar weithredu'r broses ddynodi ar gyfer apiau ar-alw'r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus.
Rydym hefyd yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ein canllawiau diwygiedig ar gyfer Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus ar eu Codau Ymarfer Comisiynu.
Mae'n ofynnol i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gael Cod y maent yn ei ddilyn wrth gomisiynu cynyrchiadau annibynnol ac sy'n adlewyrchu Canllawiau Ofcom. Rydym yn cynnig diwygio'r canllawiau hyn i adlewyrchu'r fframwaith rheoleiddio darlledu gwasanaeth cyhoeddus wedi'i ddiweddaru a gyflwynwyd o dan y Ddeddf.
Yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd ein hymgynghoriad ar yr egwyddorion a'r dulliau yr ydym yn bwriadu eu defnyddio wrth wneud argymhellion i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gwasanaethau dewis radio dynodedig.
Mae'r Ddeddf yn cyflwyno set o reolau am y tro cyntaf sy'n anelu at ddiogelu argaeledd radio'r DU ar ddyfeisiau sain gysylltiedig. Mae'n rheoleiddio rhai gwasanaethau ar-lein sy'n cael eu hysgogi gan lais, a elwir o dan y Ddeddf yn wasanaethau dewis radio (RSS), sydd wedi'u dynodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Ein rôl gyntaf sy'n berthnasol i'r rheoliadau newydd hyn yw darparu adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gwneud argymhellion ynghylch pa wasanaethau dewis radio y dylid eu dynodi. Mae'r ymgynghoriad yn nodi ein cynigion ar gyfer yr egwyddorion a'r dulliau y byddwn yn eu defnyddio i gyrraedd at yr argymhellion hynny.
Rydym wedi cyhoeddi dau ymgynghoriad wrth i ni ddechrau gweithredu deddfau newydd o dan Ddeddf y Cyfryngau 2024.
Mae'r cyfreithiau newydd hyn wedi'u cynllunio i amddiffyn darlledu gwasanaeth cyhoeddus wrth feithrin arloesedd, fel y gall cynulleidfaoedd y DU fwynhau'r gwasanaethau, y fideo a'r rhaglenni maen nhw'n eu caru.
Rydym yn gweithredu'r rheolau newydd cyn gynted â phosibl, yn unol â'n map ffordd, mewn ffordd sy'n deg, yn gymesur ac yn effeithiol.
Ymgynghoriad ar ein dull o wneud argymhellion ar Ddynodi Gwasanaethau Dewis Teledu
Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn darparu newyddion dibynadwy a chywir ac ystod amrywiol o gynnwys o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd y DU, felly mae'n hanfodol bod gwylwyr yn gallu dod o hyd i'r hyn maen nhw'n ei gynnig a'i ddarganfod yn hawdd.
Cyflwynodd Deddf y Cyfryngau 2024 drefn argaeledd ac amlygrwydd ar-lein newydd ar gyfer apiau teledu PSB – fel BBC iPlayer, ITVX, Channel 4 stream, My5, STV player, S4C Clic – a ddosberthir ar lwyfannau teledu cysylltiedig. Yn benodol, mae'r drefn yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwasanaethau hynny, a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, i sicrhau bod apiau teledu PSB dynodedig a'u cynnwys ar gael, yn amlwg, ac yn hawdd eu cyrraedd. Er y bydd BBC iPlayer yn cael ei ddynodi'n awtomatig, byddwn yn dynodi'r apiau teledu PSB eraill.
Rhaid inni ddarparu adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol yn nodi ein hargymhellion ar ddynodi gwasanaethau dewis teledu. Rhaid inni gyhoeddi datganiad o egwyddorion a dulliau yn gyntaf sy'n amlinellu'r dull y byddwn yn ei ddefnyddio wrth nodi ein hargymhellion. Rydym yn ceisio sylwadau ar yr egwyddorion a'r dulliau hynny yr ydym yn bwriadu eu dilyn wrth baratoi ein hadroddiad.
Yn 2025, byddwn yn ymgynghori ar ein hargymhellion gwirioneddol ar ddynodi llwyfannau teledu, cyn cyflwyno ein hadroddiad terfynol i'r Ysgrifennydd Gwladol.
Adnewyddu trwyddedau radio masnachol lleol
Rydym hefyd yn ymgynghori ar ddarpariaethau newydd a gyflwynwyd gan y Ddeddf Cyfryngau ar gyfer adnewyddu trwyddedau radio masnachol lleol.
Mae'r newidiadau'n cynnig llwybr newydd i bob deiliad trwydded wneud cais i gael eu trwyddedau wedi'u hadnewyddu, gan gynnwys y rhai nad oeddent yn gallu gwneud hynny o'r blaen. Yn benodol, mae hyn bellach yn golygu y gall trwyddedai wneud cais am adnewyddu os nad oes amlblecs DAB 'addas' ar gael.
Mae'r ymgynghoriad yn nodi sut rydym yn bwriadu penderfynu a yw amlblecs yn 'addas'.
Rydym yn croesawu ymatebion i'r ddau ymgynghoriad erbyn 5pm ar 5 Chwefror 2025.
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi gwneud rheoliadau cychwyn sy’n dod â Rhan 5 o Ddeddf Cyfryngau 2024 i rym, yn ogystal ag adran o Ran 1, er mwyn i ni allu bwrw ymlaen â’n gwaith paratoi ar ddiwygio darlledu gwasanaeth cyhoeddus.
Mae Rhan 5 yn cynnwys nifer o ddarpariaethau sy’n ymwneud â sut mae radio masnachol yn cael ei reoleiddio. Mae cychwyn Rhan 5 yn caniatáu i ni barhau â’n cynlluniau ar gyfer gweithredu, gan gynnwys:
- Ymgynghori ar ofynion gwybodaeth a newyddion lleol newydd ar gyfer gorsafoedd radio masnachol analog, gan gadw’r gofynion presennol yn y cyfamser.
- Dileu gofynion o drwyddedau analog sy’n ymwneud â cherddoriaeth a rhaglenni sy’n cael eu gwneud yn lleol.
- Ymgynghori ynghylch y gofynion newydd ar ddarparwyr amlblecs DAB i gyhoeddi gwybodaeth am daliadau y mae gorsafoedd radio yn eu gwneud am gludo.
- Diddymu’r angen i ddarparwyr amlblecs DAB ofyn i Ofcom am ganiatâd i ychwanegu neu dynnu gorsafoedd radio digidol.