
Heddiw, mae Ofcom wedi nodi sut rydym yn cefnogi arloesedd diogel ym maes deallusrwydd artiffisial (AI), gan sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n ddiogel ar draws y sectorau rydym yn eu rheoleiddio, ac yn symleiddio’r ffordd rydym yn gweithio.
Dywedodd Natalie Black, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom: “Mae deallusrwydd artiffisial yn trawsnewid y sectorau rydyn ni’n eu rheoleiddio – o gymedroli awtomataidd ar-lein i rwydweithiau telegyfathrebiadau mwy clyfar a darlledu mwy hygyrch.
“Mae Ofcom yn galluogi hyn i ffynnu’n ddiogel drwy greu’r amodau cywir ar gyfer arloesi, gan aros ar y blaen i’r risgiau er mwyn diogelu defnyddwyr. Mae ein dull gweithredu yn glir: cefnogi twf, diogelu’r cyhoedd, ac arwain drwy esiampl o ran sut rydym yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ein hunain.”
Cyfathrebiadau clyfrach
Mae technoleg ac arloesi wrth galon y diwydiannau rydym yn eu rheoleiddio. Wrth i dechnolegau esblygu, mae cyfleoedd newydd yn dod i’r amlwg – sydd â’r potensial i sicrhau canlyniadau gwell i ddefnyddwyr a busnesau. Er enghraifft:
- Mae llwyfannau ar-lein yn cymedroli cynnwys yn awtomataidd i ganfod cynnwys niweidiol ar raddfa fawr ac yn gyflymach, gan helpu i wella diogelwch eu defnyddwyr.
- Mae darlledwyr yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i gynhyrchu capsiynau amser real, cyfieithu cynnwys i nifer o ieithoedd, a darparu disgrifiadau sain a throsleisio awtomataidd.
- Mae cwmnïau telegyfathrebiadau yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu i gadw eu rhwydweithiau’n ddiogel; ac yn y dyfodol, efallai y byddant yn ei ddefnyddio i wella’r gwaith o reoli rhwydweithiau.
- Gellid optimeiddio’r broses o ddyrannu sbectrwm i helpu i leihau tagfeydd ar rwydweithiau a gwella effeithlonrwydd rhwydweithiau er mwyn darparu gwasanaeth gwell i ddefnyddwyr.
- Gallai cwmnïau post optimeiddio llwybrau danfon ymhellach – a allai arbed arian, lleihau allyriadau carbon, a gwella dibynadwyedd ac ansawdd y gwasanaeth i ddefnyddwyr.
Yn gyffredinol, mae ein gwaith rheoleiddio yn niwtral o ran technoleg, sy’n golygu bod cwmnïau a reoleiddir yn rhydd i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial fel y gwelant orau, heb fod angen ein caniatâd. Mae hyn yn helpu i alluogi arloesi a thwf cyflymach.
Wedi dweud hynny, er bod deallusrwydd artiffisial yn cynnig cyfleoedd a manteision newydd i fusnesau a defnyddwyr, mae’n bwysig bod Ofcom yn aros ar y blaen i unrhyw risgiau cysylltiedig, ac yn cymryd camau i’w lliniaru.
Cefnogi arloesedd
Mae annog a hyrwyddo twf economaidd yn rhan o ddyletswyddau Ofcom, ac rydym yn gweithio ar amrywiaeth o fentrau i gefnogi arloesi ym maes deallusrwydd artiffisial er mwyn helpu i gyflawni hyn. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Creu mannau diogel i arbrofi gyda thechnoleg. Ynghyd â Digital Catapult, mae Ofcom yn rhedeg y SONIC Labs sy’n darparu gofod profi rhyngweithredol (‘Open RAN’) ar gyfer gwerthwyr cyfarpar rhwydweithiau symudol – i archwilio’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn rhwydweithiau symudol.
- Darparu setiau data mawr i helpu i hyfforddi a datblygu modelau deallusrwydd artiffisial. Gellir defnyddio ein data i hyfforddi a datblygu modelau deallusrwydd artiffisial, gan wella eu hallbynnau. Er enghraifft, mae ein setiau data mawr, unigryw sy’n ymwneud â sut mae sbectrwm yn cael ei ddefnyddio yn y DU wedi galluogi’r byd academaidd a diwydiant i ddatblygu modelau deallusrwydd artiffisial o’r radd flaenaf ar gyfer achosion defnyddio sbectrwm.
- Cydweithio â sefydliadau eraill i ddarparu aliniad rheoleiddiol. Er enghraifft, rydym yn gweithio gyda’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA), Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) drwy’r Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol i ddeall rhaglenni deallusrwydd artiffisial newydd, fel deallusrwydd artiffisial asiantol.[1]
Lliniaru risgiau
Er bod y diwydiant a defnyddwyr yn elwa o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, defnyddwyr yn bennaf sy’n teimlo effaith y risgiau sy’n cael eu creu neu eu gwaethygu gan ddeallusrwydd artiffisial.
Gall y risgiau hyn achosi niwed difrifol i unigolion, yn enwedig yn ein bywydau ar-lein. Er enghraifft, o blith y defnyddwyr rhyngrwyd 16 oed a hŷn yn y DU, mae dau o bob pump ohonynt yn dweud eu bod wedi gweld ffugiad dwfn – o'r rhain, mae un o bob saith yn dweud eu bod wedi gweld ffugiad dwfn rhywiol.[2]
O’r rhai sy’n dweud eu bod wedi gweld ffugiad dwfn rhywiol, mae 15% yn dweud bod y ffugiad hwnnw wedi dangos rhywun maen nhw’n ei adnabod, mae 6% yn dweud ei fod wedi eu portreadu nhw eu hunain, ac roedd 17% yn meddwl ei fod wedi portreadu rhywun o dan 18 oed.
Er mwyn mynd i’r afael â ffugiadau dwfn ac amrywiaeth o fathau eraill o niwed difrifol ar-lein, rydym yn gweithredu – ac yn dechrau gorfodi – Deddf Diogelwch Ar-lein y DU. Bydd ein rheolau ‘diogelwch bwriadus’ – sy’n golygu y dylai llwyfannau dynnu cynnwys anghyfreithlon sy’n cael ei greu gan ddeallusrwydd artiffisial i lawr, ac asesu risgiau unrhyw newidiadau maen nhw’n eu gwneud i’w gwasanaethau – yn helpu i greu bywyd mwy diogel ar-lein i’r holl ddefnyddwyr yn y DU, yn enwedig plant, gan sicrhau ar yr un pryd bod gan gwmnïau technoleg hyblygrwydd a rhyddid i arloesi.
Sut mae Ofcom yn defnyddio deallusrwydd artiffisial
Rydym yn harneisio deallusrwydd artiffisial i leihau’r baich ar yr holl sefydliadau ac unigolion rydym yn eu rheoleiddio neu’n ymgysylltu â nhw. Mae gennym dros 100 o arbenigwyr technoleg yn ein timau data a thechnoleg – gan gynnwys tua 60 o arbenigwyr deallusrwydd artiffisial – llawer ohonynt â phrofiad uniongyrchol o ddatblygu adnoddau deallusrwydd artiffisial.
Rydym yn cynnal dros ddwsin o dreialon yn ein defnydd ein hunain o ddeallusrwydd artiffisial, gyda'r nod o gynyddu ein cynhyrchiant, gwella ein prosesau a chreu effeithlonrwydd. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio rhaglenni GenAI trydydd parti bob dydd, yn ogystal â chreu rhaglenni sy’n seiliedig ar AI yn fewnol. Er enghraifft:
- Symleiddio’r gwaith o gyfieithu cynnwys a ddarlledir mewn ymateb i gwynion sy’n dod i law, drwy ddefnyddio cyfieithydd AI ar y cyd â’n gwasanaeth recordio a ddarlledir. Mae hyn wedi ein galluogi ni i symud adnoddau o gwmpas i ganolbwyntio ar flaenoriaethau eraill a lleihau costau cyfieithu.
- Datblygu adnodd crynhoi testun pwrpasol i ddadansoddi setiau data mawr ar draws ymatebion i’n hymgynghoriadau, er mwyn dod o hyd i batrymau a themâu’n gyflymach ac yn fwy effeithlon.
- Defnyddio deallusrwydd artiffisial i wella’r gwaith o gynllunio sbectrwm, gyda photensial enfawr i gynyddu faint o ddata y gellir ei drosglwyddo dros led band penodol – yn enwedig mewn ardaloedd adeiledig sy’n defnyddio amleddau uchel.
Dros y flwyddyn nesaf, rydym yn bwriadu cyflymu’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ar draws ein meysydd polisi fel y bo’n briodol, gan fabwysiadu dull gweithredu sy’n rhoi diogelwch yn gyntaf. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu parhau i dreialu offer deallusrwydd artiffisial a dim ond eu cyflwyno ar draws y sefydliad pan fyddwn yn hyderus eu bod yn ddiogel.[3]
Diwedd
Nodiadau i olygyddion:
- Mae deallusrwydd artiffisial asiantol yn cyfeirio at fath o ddeallusrwydd artiffisial lle gall systemau weithredu’n annibynnol, gan wneud penderfyniadau a chyflawni tasgau heb ymyrraeth ddynol gyson.
- Ymchwil Ofcom i ffugiadau dwfn, Gorffennaf 2024
- Mae adroddiad heddiw yn rhoi enghreifftiau o’r gwaith rydym yn bwriadu ei wneud yng nghyswllt deallusrwydd artiffisial dros y 12 mis nesaf ym mhob un o’n meysydd polisi, yn ogystal â gwaith sy’n torri ar draws ein meysydd polisi.